Anfonwch eich negeseuon o gefnogaeth o Wrecsam (cartref ysbrydol Pêl-droed Cymru ) I Dîm Pêl Droed Cymru cyn iddynt ymddangos yn Gwpan Y Byd Qatar.
Fedrwch cadw ‘fyny gyda digwyddiadau ac gweithgareddau pêl droed yn Wrecsam drwy dilyn y #nod #WalGochWrecsam, #TîmCymru2022, #TeamWales2022 #tags neu wrth fynd at ein blog neu gwefan Gwyl Wal Goch
Pob lwc Cymru! Rydyn ni mor browd ohonoch chi. Dewch â’r cwpan adre efo chi!
Diolch am godi calon pawb yng Nghymru a rhoi mwy o hyder yn ein hiaith a’n diwylliant. Da chi’n barod wedi neud cymaint i hybu Cymru ar lwyfan byd ehang – dal ati a phob lwc. Byddai’n gwylio o unai Wrecsam neu Bwcle gobeithio byddwch chi’n clywed y sŵn mae pawb yn neud yn Qatar!!
Pob lwc Cymru! Mae pawb o Ysgol Bro Alun mor gyffrous i’ch cefnogi chi gyd ar lwyfan y Cwpan y Byd 2022 yn Qatar. Byddem yna yn sefyll ochr yn ochr efo chi yn bloeddio’r anthem nerth ein pennau! Diolch am godi ein calonnau i’r to ac am ddangos i ni pa mor wych ydy o i fod yn Gymro neu’n Gymraes falch yma yn Wrecsam. Ewch amdani- rydym YMA O HYD!!
Oddi wrth bawb yn Ysgol Bro Alun, Gwersyllt.
Pob lwc Cymru! Mae pawb o Ysgol Bro Alun mor gyffrous i’ch cefnogi chi gyd ar lwyfan y Cwpan y Byd 2022 yn Qatar. Byddem yna yn sefyll ochr yn ochr efo chi yn bloeddio’r anthem nerth ein pennau! Diolch am godi ein calonnau i’r to ac am ddangos i ni pa mor wych ydy o i fod yn Gymro neu’n Gymraes falch yma yn Wrecsam. Ewch amdani- rydym YMA O HYD!!
Oddi wrth bawb yma yn Ysgol Bro Alun, Gwersyllt.
AMDANI!!!
Pob lwc i dîm Pêl droed Cymru yng nghwpan y byd gan Ysgol Llan-y-pwll, Wrecsam. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at eich gwylio a’ch cefnogi. C’mon Cymru!